Hyfforddiant Xero

Gall mynd i’r afael â meddalwedd newydd fod yn her: bydd y fideos canlynol yn gwneud defnyddio Xero yn syml yn eich gwaith cyfrifydda o ddydd i ddydd.

xero gold partner

Cyflwyniad i Xero

Mae Xero yn becyn meddalwedd hyfryd ar gyfer cyfrifydda yn y cwmwl ac mae miliynau o bobl wrth eu bodd yn ei ddefnyddio i redeg eu busnes bach.

Mae Xero ar gael ledled y byd ac yn rhedeg yn y cwmwl. Mae hyn yn golygu y gallwch drin eich cyllid drwy ddefnyddio unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd – unrhyw bryd, unrhyw le.

Cadw llyfrau o ddydd i ddydd

Dysgwch ddefnyddio Xero at eich gwaith cadw llyfrau beunyddiol, gan osod eich cyfrif i roi’r ateb pwrpasol i’ch busnes chi.

Sicrhau Help a Chefnogaeth

Pan fydd rhywbeth yn Xero yn peri trafferth, mae nifer o ffyrdd ichi gael cymorth. Mae’r fideo hwn yn dangos mwy i chi am hyn.

Dangosfwrdd Xero

Bydd addasu’ch dangosfwrdd Xero at eich anghenion chi yn fodd ichi deilwra’ch cyfrif Xero i’ch gofynion unigol.

Cysoni Trafodiadau Banc

Mae Xero’n cysoni trafodiadau banc yn ddiymdrech ac yn effeithiol. Dysgwch sut i gysoni taliadau, treuliau a mwy yn y fideo defnyddiol hwn.

Defnyddio’r Stocrestr

Gallwch reoli’ch stocrestr hefyd drwy gyfrwng Xero. Gwyliwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn.

Cysylltiadau

Cadwch eich cysylltiadau i gyd mewn un lle gyda’r dull rheoli cysylltiadau sy’n rhan o Xero. Cadwch eich gwybodaeth am gleientau yn gyfredol drwy’r system Cysylltiadau.

Dyfynbrisiau ar-lein

Fyddwch chi’n anfon dyfynbrisiau? Defnyddiwch y dull dyfynbrisio sy’n rhan o Xero. Lluniwch gynigion a’u hanfon yn uniongyrchol at eich cleientau drwy’r ebost. Mae’r fideo hwn yn cynnig mwy o wybodaeth am yr elfen hon sydd wedi’i chynnwys yn Xero.

Cofnodi Anfonebau Gwerthiannau

Angen cyngor ar sut i ddefnyddio Xero i gofnodi anfonebau gwerthiannau? Mae’r fideo hwn yn rhoi cipolwg ardderchog ar sut i wneud hyn gyda’ch cyfrif Xero.

Biliau Prynu

Cadwch eich biliau prynu mewn un lle a chadwch olwg arnynt gyda Xero. Gallwch eu cysoni â thaliadau a mwy.

Ailadrodd anfonebau

Anfon anfoneb fisol at rywun? Mae ailadrodd anfonebau yn cynnig nifer o opsiynau o ran anfon anfonebau at eich cwsmeriaid dro ar ôl tro. Mae’r fideo hwn yn cynnig cipolwg gwych ar yr elfen hon o Xero.

Cofnodi Ceisiadau am Dreuliau

Mae’r fideo hwn yn dangos sut i gofnodi cais am dreuliau yn Xero a sut mae’r feddalwedd yn delio â’r cofnod.

Defnyddio Rhestrau Clyfar

Mae’r fideo hwn yn cynnig cipolwg gwych ar eich cleientau presennol a sut i ddefnyddio rhestrau clyfar ar gyfer cynigion arbennig a mwy.

Y Rheolwr Cyllidebau

Rheolwch eich cyllideb â’r rheolwr cyllidebau sydd wedi’i gynnwys yn Xero. Mae’r fideo hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am sut i’w ddefnyddio yn eich sefydliad chi.

Ap Symudol Xero

Cadwch lygad ar bethau wrth fynd gydag ap symudol Xero. Dysgwch fwy am yr ap gyda’r fideo hwn.

Y Farchnad Apiau

Gwnewch fwy â Xero drwy ddefnyddio amryw o apiau defnyddiol sydd wedi’u creu gan drydydd partïon ac sydd ar gael yn y farchnad apiau. Dysgwch sut i’w hintegreiddio a beth sydd ar gael.

© 2024 Dros Dro Cyfyngedig T/A Pritchard & Co Web Design by United Studios