Ein gwasanaethau

Yn Pritchard & Co Digital, mae’n cleientau’n amrywio ond yr un yw ein dull ni o ymdrin â phob cleient: rhoi atebion cyflawn, wedi’u bwriadu i ychwanegu gwerth i fusnesau. Rydym yn cydnabod bod ar gwmnïau ac unigolion angen cefnogaeth wahanol ar wahanol adegau yn eu twf, felly fyddwn ni ddim yn gorfodi pegiau sgwâr i dyllau crwn o’r un maint “sy’n addas i bawb”. Rydym yn rhoi cyngor pwrpasol, ymarferol, mewn iaith glir.

Mae cyfrifydda digidol a chyfrifydda drwy gyfrwng y cwmwl yn tyfu’n gyflym wrth i dechnoleg barhau i ddod yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd. Yn sgil menter CThEM ‘Gwneud Treth yn Ddigidol’, mae cyflwyno cyfrifon digidol wedi dod i mewn yn llawn; mae’n rhaid i wybodaeth ariannol gael ei storio’n ddigidol a rhaid i’ch trethi gael eu cyflwyno drwy feddalwedd sy’n cydymffurfio â’r gofynion, gan ddechrau gyda TAW o Ebrill 2019 ymlaen. Mae cyfrifydda drwy gyfrwng y cwmwl yn fodd ichi gadw’ch holl gofnodion busnes mewn un lle hwylus ar-lein. Gallwch agor eich cyfrifon yn ddiogel drwy gyffwrdd â botwm a chreu ac anfon anfonebau, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am daliadau a llawer mwy.

Rydym yn arbenigo mewn gwasanaethau cynhwysfawr i fusnesau, o symud i feddalwedd cyfrifydda cwmwl i gynllunio treth gorfforaeth neu dreth deulu. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn rhoi gwasanaeth personol a phroffesiynol i’n holl gleientau a chredwn fod ein ffioedd yn gystadleuol iawn yn yr ardal leol.

 

Cyfrifydda â Xero

Yn Pritchard & Co Digital gallwn ddefnyddio llawer o becynnau cyfrifydda ond rydym yn arbenigo mewn meddalwedd cyfrifydda cwmwl gan Xero. Byddwn nid yn unig yn eich helpu i integreiddio Xero yn eich busnes, ond gallwn hefyd roi hyfforddiant i sicrhau eich bod yn medi manteision digideiddio a phopeth sydd gan Xero i’w gynnig. Un o brif fanteision cyfrifydda yn y cwmwl yw bod modd cael diweddariadau mewn amser real am bob agwedd ar eich cyllid a hynny drwy unrhyw ddyfais, unrhyw bryd ac unrhyw le.

Gallwn eich helpu i fewnbynnu’ch cyfrifon a gwneud addasiadau lle bo’u hangen ar sail unrhyw wybodaeth bellach a gawn ni gennych a chaiff Xero ei adolygu i gyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n ei gyflwyno i CThEM a Thŷ’r cwmnïau. Gallwn anfon cyfrifon atoch drwy feddalwedd er mwyn ichi eu llofnodi’n ddigidol ac osgoi gwastraffu papur!

Rhagolygon Ariannol

Gall rhagolwg ariannol fod yn rhan o gynllun busnes neu gall sefyll ar ei ben ei hun ond, beth bynnag fo’ch anghenion, gallwn eich helpu i’w baratoi. Mae rheoli llif arian yn hanfodol i’ch gweithrediadau busnes, mae’n allweddol i dwf ac yn cadw’ch busnes dan reolaeth. Gyda’n profiad eang dros flynyddoedd lawer yn cynghori cleientau, gallwn adnabod arwyddion cynnar bod llif arian yn mynd ar chwâl a chynghori sut i’w wella.

Gallwn eich helpu i reoli’ch llif arian drwy greu offeryn sylfaenol yn Xero neu drwy ddefnyddio apiau penodol at lif arian, gan ddibynnu pa mor gymhleth yw’ch anghenion. Cewch gymorth gennym i greu a gosod cyllidebau yn Xero fel eich bod yn gallu monitro’ch cyllidebau yn erbyn eich ffigurau gwirioneddol. Drwy gydweithio, gallwn wneud eich busnes yn fwy deniadol, ymarferol a phroffidiol.

Treth Bersonol a Threth Gwmni

P’un a ydych yn gyfarwyddwr cwmni, mewn partneriaeth neu’n unig fasnachwr, bydd angen ichi ddeall eich biliau treth. Gallwn eich helpu gyda gwybodaeth ar gyfer eich treth bersonol a’ch treth gwmni, gallwn wirio’ch cyfrifon trwy Xero neu drwy’ch hoff feddalwedd ariannol a rhown wybod ichi am yr amcangyfrif o’ch bil treth mor aml ag y bydd ei angen. O ran cwmnïau cyfyngedig gallwn gyfrifo’r Dreth Gorfforaeth sydd i’w thalu bob blwyddyn a hawlio pob rhyddhad sydd ar gael, fel Lwfansau Cyfalaf a Chredydau Treth Ymchwilio a Datblygu.

Gall treth gorfforaeth fod yn rhan sylweddol o’ch costau masnachu blynyddol a dylai gael ei monitro’n fanwl ochr yn ochr â gorbenion eraill er mwyn sicrhau bod eich busnes yn effeithlon o ran treth ac nad yw’n talu gormod. Rydym hefyd yn rhoi gwybod i chi faint o gyflog misol a difidendau i’w codi fel bod digon o arian yn eich cyfrif gennych bob amser.

Y Gyflogres a CIS

Gofalwn am y gyflogres a CIS (Cynllun y Diwydiant Adeiladu) drwy gyfrwng ein gwasanaeth cyflogres am bris cystadleuol. I helpu i ehangu’ch busnes, bydd angen cofnodion cywir, ac rydym yn canolbwyntio ar helpu busnesau i dyfu, gan weithio’n rhagweithiol gyda chi i helpu gyda holl faterion y gyflogres. Gall ein staff profiadol roi cyngor ar faint i’w dalu i CThEM a pha bryd, a helpwn ni chi i gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau fel cyflogwyr.

Credydau Treth Ymchwilio a Datblygu

Mae Credydau Treth Ymchwilio a Datblygu (R&D) yn gymhelliant gan y llywodraeth sydd wedi’u bwriadu i wobrwyo cwmnïau o’r Deyrnas Unedig am fuddsoddi mewn arloesi. Maent yn ffynhonnell werthfawr o arian i fusnesau ei fuddsoddi mewn gwaith i gyflymu eu R&D, cyflogi staff newydd ac yn y pen draw tyfu.

Os ydych chi’n gwario ar eich gwaith arloesi, gallwch wneud cais am gredyd treth R&D i gael naill ai taliad arian parod a/neu ostyngiad yn eich Treth Gorfforaeth. Gall yr arian gael ei ddefnyddio at unrhyw beth – cyflogi mwy o ddatblygwyr, prynu offer, neu hyd yn oed dalu difidendau. Os yw’ch cwmni chi’n cymryd risg drwy geisio ‘datrys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol’ efallai eich bod yn gwneud gwaith cymwys. Os ydych yn meddwl y gallai hyn fod yn gymwys i chi, cysylltwch â ni.

person at computer

Lwfansau Cyfalaf ar Eiddo

Mae Lwfansau Cyfalaf yn caniatáu i berchnogion eiddo masnachol hawlio eitemau cymwys o wariant cyfalaf fel didyniad treth ac maent yn rhyddhad gwerthfawr rhag treth. Nod Adolygiad o Lwfansau Cyfalaf ar Eiddo yw adennill treth sydd wedi’i thalu a lleihau rhwymedigaethau treth i gwmnïau ac unigolion sydd wedi gwario cyfalaf ar brynu a/neu wella eiddo masnachol. Mae Lwfansau Cyfalaf ar Eiddo hefyd yn ffactor pwysig wrth brynu a gwerthu eiddo masnachol. Bydd unrhyw un sy’n berchen ar fuddiant mewn eiddo, boed rhydd-ddaliad, lesddaliad neu fel tenant, ac sy’n gwario cyfalaf naill ai drwy gaffael yr eiddo hwnnw, ei ddatblygu o’r newydd, gwneud gwaith adnewyddu neu osod offer, i gyd yn creu cyfle i hawlio Lwfansau Cyfalaf.

Mae sicrhau’r cyngor iawn yn hanfodol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth newydd a sicrhau arbedion treth i chi a’ch busnes. Rydym yn gweithio gyda phartner arbenigol i roi’r gwasanaeth penodol hwn. Os ydych yn credu ei fod yn gymwys i chi, cysylltwch â ni i gael ymgynghoriad cychwynnol am ddim.

Cynllunio treth

Ar ben treth incwm, mae llawer o fathau eraill o dreth, gan gynnwys Treth ar Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant a Threth Gorfforaeth. Gall y rheolau ar drethu a’r mathau o ryddhad treth fod yn gymhleth ac mae’r lwfansau yn newid yn aml, felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r cyfreithiau presennol i reoli’ch cyllid personol a chyllid eich busnes mewn ffordd sy’n effeithlon o ran treth. Ni chaniateir osgoi trethi, ond mae yna bosibiliadau o ran trefnu pethau o fewn y ddeddfwriaeth i gyfyngu ar y trethi rydych ar dir i’w talu a hynny heb grwydro i fyd osgoi trethi.

Gallwn eich helpu i gynllunio’ch trethi ymlaen llaw. Bydd ein harbenigwyr yn llunio strategaethau effeithiol a fydd yn defnyddio’r gostyngiadau a’r lwfansau cyfreithiol i leihau’r swm y mae’n rhaid ichi ei dalu. Os ydych yn teimlo y gallwn eich helpu yn eich cynlluniau treth, cysylltwch â ni.

Cynllunio treth etifeddiaeth

I raddau helaeth, treth wirfoddol yw treth etifeddiaeth o hyd, yn enwedig o gynllunio ymlaen llaw. O ran portffolios eiddo ac arian a buddsoddi mewn cyfrannau, p’un a ydyn nhw’n cael eu dal fel unigolion ynteu gan gwmni, mae amryw o fathau o ryddhad ac esemptiad ar gael. Mae llawer yn teimlo bod y syniad o drafod treth etifeddiaeth a chynllunio ewyllys yn annifyr.

Mae pobl yn meddwl – yn anghywir felly – fod  cynllunio treth etifeddiaeth yn gymhleth ac yn anffodus, mae llawer o deuluoedd yn methu manteisio’n llawn ar yr hyn sydd ar gael.

I gleientau yn y sefyllfa hon, gallwn gydweithio â chi i sicrhau eich bod yn defnyddio pob rhyddhad ac esemptiad posibl. Gallwn greu cynllun olyniaeth wedi’i seilio’n arbennig ar eich amgylchiadau unigol chi.

Am wybod mwy?

Oes ymholiad gennych? Mae croeso ichi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.

© 2025 Dros Dro Cyfyngedig T/A Pritchard & Co Web Design by United Studios