Pritchard & Co Digital
Mae gan Pritchard & Co Digital yr adnoddau a’r arbenigedd i ateb eich holl anghenion ym maes cyfrifydda a busnes digidol, gan ddefnyddio’r feddalwedd gwmwl ddiweddaraf.
Mae gan Pritchard & Co Digital yr adnoddau a’r arbenigedd i ateb eich holl anghenion ym maes cyfrifydda a busnes digidol, gan ddefnyddio’r feddalwedd gwmwl ddiweddaraf.
Mae Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) yn gost ychwanegol i lawer o fusnesau ond bydd ein ffordd arloesol ni o ddefnyddio’r dechnoleg a’r apiau diweddaraf yn lleihau’r baich ychwanegol hwn gymaint â phosib. Cafodd cyfnod cyntaf MTD ei lansio ym mis Ebrill 2019, pan fu’n rhaid i bob busnes sy’n gorfod cofrestru ar gyfer TAW ac sydd heb anawsterau cymhleth gyflwyno data yn uniongyrchol i CThEM yn ddigidol, gan ddefnyddio meddalwedd briodol.
I lawer o fusnesau, mae MTD yn dasg sydd wedi peri gofid, ond mae gan Pritchard & Co Digital ffyrdd cydnabyddedig o lywio’n cleientau drwy’r trawsnewidiad hwn heb aflonyddu fawr ddim ar y busnes. Mae’n ffordd arloesol ni o drin MTD yn crynhoi’r gwaith cadw llyfrau, y ffurflenni TAW a’r holl gyfrifon ariannol mewn un rhaglen, gan ddefnyddio apiau sy’n cysylltu’n uniongyrchol â meddalwedd Xero. Mae llai o amser yn prosesu eu cyfrifon yn golygu bod gan ein cleientau fwy o amser i ganolbwyntio ar wella twf eu cwmni.
Mae cyfrifydda drwy ddefnyddio’r cwmwl wedi newid sut rydym yn gwneud busnes heddiw. Mae meddalwedd cyfrifydda cwmwl yn golygu nad os rhaid ichi ffwdanu mwyach â thaenlenni na gosod pecyn cyfrifydda ar gyfrifiadur unigol. Mae meddalwedd cwmwl yn eich galluogi i fewngofnodi i gyfrifon eich cwmni yn ddiogel mewn unrhyw le sydd â chysylltiad diogel â’r ryngrwyd.
Yn Pritchard & Co Digital rydym yn cynnig adroddiadau rheoli bob mis neu bob chwarter gan ddefnyddio Xero. Drwy fynd ati ymlaen llaw fel hyn gan ddefnyddio meddalwedd cwmwl, gallwn sicrhau gwybodaeth gyfrifydda sy’n hanfodol i’ch busnes a hynny mewn amser real. Mae hyn yn ein galluogi i’ch helpu i wneud penderfyniadau pwysig yn gynt: does dim rhaid ichi aros tan ddiwedd eich blwyddyn ariannol i wybod eich bil treth neu faint o elw sydd wedi’i wneud.
© 2024 Dros Dro Cyfyngedig T/A Pritchard & Co Web Design by United Studios